top of page

IEITHOEDD, LLYTHRENNEDD A CHYFATHREBU

IMG_7294.jpg

Cymraeg

Pam fod Cymraeg yn bwysig?

  • Mae’r cwrs yn un sydd yn cynnwys ystod eang o bynciau, o Fyd Ysgol i’r Byd o’n Cwmpas gyda digon o gyfleoedd i ehangu ar eich sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg.

  • Ein nod yw ceisio sicrhau mwynhad o astudio’r pwnc a hybu ymwybyddiaeth fod y Gymraeg yn bwysig a pherthnasol, ei bod yn rhan naturiol o’n bywydau ni ac y dylid ei pharchu a’i defnyddio.

  • Mae dysgu mwy nag un iaith yn ei gwneud hi’n haws dysgu trydydd iaith!

  • Mae’r gallu i siarad mwy nag un iaith o fantais mawr i chi yn y gweithle! Mae cyflogwyr yn chwilio am weithwyr dwyieithog!

  • Cefnogi eisteddfodau, cystadlaethau llenyddol, y papur bro a radio’r ysgol . Cyfle i ddisgyblion i gystadlu mewn amrywiol gystadlaethau lleol a chenedlaethol.

IMG_7385.jpg

Saesneg

Pam fod Saesneg yn bwysig?

  • Mae’r cwrs yn un sydd yn cynnwys ystod eang o bynciau, o Shakespeare i Fywyd Cyfoes gyda digon o gyfleoedd i ehangu ar eich sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu yn y Saesneg.

  • Ein nod yw ceisio sicrhau mwynhad o astudio’r pwnc er mwyn magu hyder wrth gyfathrebu o ddydd i ddydd yn ein cymdeithas ar lefel uchel.

  • Mae angen uwch sgiliau iaith er mwyn cyfathrebu drwy’r we, mewn llythyrau a llawer mwy.

Mae cyflogwyr yn chwilio am weithwyr sydd a Saesneg safonol ganddynt!

IMG_7791.jpg

Ieithoedd Modern

Pam fod Ieithoedd Tramor Modern yn bwysig?

  • Mae’r cwrs yn un sydd yn cynnwys ystod eang o bynciau, o siopa a bwyd i chwaraeon ac adloniant, gyda digon o gyfleoedd i ehangu ar eich sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu yn Ffrangeg.

  • Mae’r gallu i siarad ieithoedd ychwanegol yn gwneud i chi sefyll allan.

  • Gall dysgu iaith newydd gynyddu gallu eich ymennydd a gwella eich cof!

  • Mae dysgu iaith newydd yn gamp, a bydd gennych well opsiynnau ar gyfer y dyfodol.

  • Bydd cyfle i fynd ar deithiau i Ffrainc a phrofi bywyd (a bwyd!!!) Ffrengig, a chyfarfod a phobl newydd.

  • Yn ogystal a Ffrangeg o fl7 i fl11, rydym hefyd yn cynnig Sbaeneg ym ml10 ac 11.

bottom of page