top of page

Y 4 Diben

1496a_edited.jpg

Dysgwyr uchelgeisiol, galluog... sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau, ac sy'n:

  • Gosod safonau uchel iddyn nhw eu hunain

  • mwynhau her a datrys problemau

  • datblygu gwybodaeth a sgiliau a'u cymhwyso mewn gwahanol gyd-destunau

  • gallu trafod eu dysgu yn hyderus

  • gallu cyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg

  • gallu defnyddio mathemateg a rhif a thechnolegau digidol yn effeithiol

​

​

​

Cyfranwyr mentrus... sy'n barod i chware rhan lawn mewn bywyd a gwaith, ac sy'n:

  • meddwl yn greadigol

  • cysylltu a chymhwyso eu gwybodaeth a'u sgiliau i greu, i addasu ac i datrys problemau

  • adnabod cyfleoedd a manteision arnynt

  • hyderus i fentro

  • arwain a chydweithio mewn timau

  • mynegi au syniadau a'u hemosiynau mewn gwahanol ffyrdd

  • defnyddio eu hegni a'u sgiliau er budd eraill

Dinasyddion egwyddorol, gwybodus... sy'n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a'r byd, ac sy'n:

  • ffurfio barn a thrafod materion ar sail eu gwybodaeth a'u gwerthoedd

  • deall ac arfer eu cyfrifoldebau a'u hawliau dynol

  • deall ac yn ystyried effaith eu gweithredoedd

  • gwybod am eu diwylliant a'u cymuned

  • gwybod am gymdeithas a'r byd presennol ac yn y gorffennol

  • parchu anghenion a hawliau pobl eraill fel aelod o gymdeithas amrywiol

  • gweld bod ganddynt rol i'w chware i sicrhau cynaladwyedd y blaned

Unigolion iach, hyderus... sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas, ac sy'n datblygu:

  • iechyd a diogelwch corfforol a meddyliol

  • cydberthynas yn seiliedig ar barch ac ymddiriedaeth

  • gwerthoedd personol

  • sgiliau ac annibyniaeth i ddelio gyda bywyd bob dydd

  • y gallu i wynebu a goresgyn heriau

​

​

​

​

​

bottom of page