top of page

Gwerthoedd

1496a_edited.jpg

Mae’r gwerthoedd hyn yn hanfodol i’n cymuned ddysgu os am gyflawni ein gweledigaeth.

Parchus

Mae pawb yn yr ysgol yn unigryw- yn ddysgwyr a theuluoedd, yn staff a rhanddeiliaid.  Rydym yn onest ac agored wrth ein gwaith a pharchwn farn a theimladau pawb

Parchus.jpg

Uchelgeisiol a Hyderus

Rydym yn cefnogi ein gilydd yn yr ysgol yn ddysgwr a staff i fod yn hyderus  a balch o’n hunain, i groesawu her ac i ddyfalbarhau i gyrraedd ein nod

Uchelgeisiol.jpg

Parod

Disgwylir i’n holl randdeiliaid sicrhau bod ein disgyblion yn derbyn yr hinsawdd orau phosib i lwyddo ynddi, ac bod ein disgyblion yn barod I ffynnu o fewn yr hinsawdd honno.

Parod.jpg

Creadigol

Rydym yn cefnogi ein gilydd yn yr ysgol, yn ddysgwyr a staff, i fentro’n hyderus, i feddwl yn greadigol a thorri tir newydd  ac i ddysgu o’n llwyddiannau a’n methiannau.

Creative.jpg

Cyfeillgar a Mwynhad

Mae ethos pob dosbarth a phrofiadau dysgu yn ysbrydoli ein dysgwyr.  Rydym yn sicrhau bod dysgwyr yn mwynhau profiadau a datblygu cymhelliant wrth ddysgu .

cyfeillgar.jpg

Brwdfrydedd

Byddwn yn ymdrechu i greu profiadau a fydd yn arwain at ddisgyblion brwdfrydig yn ceisio bod yn llwyddiannus. Yn ei dro, creu pobl ifanc chwilfrydig a llwyddiannus.

Enthusiasm.jpg

Cefnogi a Cydweithio

O fewn ein dosbarthiadau, ein hysgol ac ar draws ein clwstwr o ysgolion, rydym yn cydweithio ac yn cefnogi ein gilydd i ddatblygu a dysgu’n  barhaus. 

cooperate.jpg

Cymreictod

Byddwn oll yn cofleidio ac yn dathlu ein diwylliant a’n hiaith, gan ddarparu profiadau i ddatblygu pobl ifanc sy’n falch o’u treftadaeth.

Cymreictod.jpg
bottom of page