top of page

GWYDDONIAETH

_DSC9344.JPG

Gwyddoniaeth

Mae'r adran Wyddoniaeth yn cwmpasu'r tri  Gwyddor sef Bioleg, Cemeg a Ffiseg. Yng Ngh.A.3 mae'r disgyblion yn astudio unedau penodol , ac yn cael ei cymell i ymchwilio, ble maent yn cynllunio, cario allan a gwerthuso'i arbrofion.  Yng Ngh.A.4 gall y disgyblion ddilyn Gwyddoniaeth Dwbl neu dewis y cwrs Triphlyg.

Yng Ngh.A.5 mae Bioleg, Cemeg a Ffiseg yn gyrsiau lefel A poblogaeth.

IMG_7340.jpg

Iechyd a Gofal

Mae amrywiaeth o fewn y cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol fydd yn galluogi disgyblion i ehangu eu gwybodaeth o ddatblygiad  drwy’r ystod oedran, o blentyndod hyd at henaint, ac o sut mae’r system iechyd a gofal yn gweithio.  Bydd y disgyblion hefyd yn codi ymwybyddiaeth o sut i fod yn iach, a sut i roi cymorth i bobl sydd yn dioddef o afiechydon penodol.  Mae cyfle yn ystod y ddwy flynedd i weithio ar y cyd gyda disgyblion eraill yn ogystal a gweithio yn annibynnol.  Byddwn yn rhoi gwybodaeth o’r cyfleon gyrfa fydd ar gael i’r disgyblion yn dilyn astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac mae yna ystod eang o bosibiliadau. 

bottom of page