top of page

DATGANIAD GAD

Pwrpas y Grant Datblygu Disgyblion yw gwella cyrhaeddiad addysgol disgyblion o deuluoedd incwm isel ac sydd â hawl i brydau ysgol am ddim (eFSM). Disgwylir i ysgolion wneud y defnydd mwyaf o'r cyllid hwn drwy gyflwyno strategaethau cynaliadwy a fydd yn arwain at ddeilliannau gwell i ddisgyblion sydd â hawl i brydau ysgol am ddim. 

 

Fel ysgol, rydym am ddysgu o'r arfer gorau yng Nghymru a thu hwnt drwy: 

 

1. gynllunio ymyrraethau sy'n canolbwyntio ar wella cyrhaeddiad disgyblion o gefndiroedd difreintiedig, monitro cynnydd disgyblion yn rheolaidd a gwerthuso effaith yr ymyrraeth. 

 

2. integreiddio cynlluniau ar gyfer defnyddio'r Grant Datblygu Disgyblion yn effeithiol i'r Cynllun Datblygu Ysgol, gan seilio ein harfer ar dystiolaeth gadarn a'u cynnwys fel rhan o strategaeth ysgol gyfan. 

 

3. cydbwyso strategaethau ysgol gyfan ag ymyriadau wedi'u targedu i sicrhau bod pob dysgwr sydd â hawl i brydau ysgol am ddim yn elwa fel unigolion, tra bod yr ysgol gyfan hefyd yn datblygu ei gallu i gefnogi pob dysgwr i gyflawni ei botensial llawn. 

 

Yn 2025-26, dyrannwyd cyfanswm o £88,550 o Grant Datblygu Disgyblion i Ysgol Syr Thomas Jones. 

 

Mae gan Ysgol Syr Thomas Jones gynllun cynhwysfawr, wedi'i gytuno a'i fonitro gan yr AALl, i hyrwyddo disgwyliadau uchel o ran cyflawniad a chynnydd ac i gael leihau ar rwystrau i ddysgu i ddisgyblion sy'n gymwys i gael y cyllid hwn. 

 

Rydym wedi defnyddio'r cyllid sydd ar gael i: 

 

• Cefnogi Datblygiad Proffesiynol 

• Cefnogi rolau Bugeiliol 

• Ymyrraethau cymorth 

 

Nid yw'n briodol i'r ysgol gyhoeddi cynllun manwl gan y gallai adnabod disgyblion unigol. 

bottom of page