CELFYDDYDAU MYNEGIANNOL AC ADDYSG GORFFOROL
Celf
Pam bod Celf yn bwysig?
Mae’r cwrs yn ymarferol yn bennaf, gyda llu o gyfleoedd i gael profiadau ysgogol a chreadigol mewn gweithgareddau sy’n ymwneud a Chelf a Dylunio. Cyfle i fynegi barn yn feirniadol am gelf, datblygu syniadau ar gyfer gwaith, gan ymchwilio i ffynonellau gwybodeth gweledol a ffynonellau eraill. Datblygu dychymyg a meddwl beirniadol a myfyriol. Profiad o weithio ag arediad eang o gyfryngau.
Gallu i arloesi, ac i addasu ac i weithio’n annibynnol.
Syniadau Gyrfa
Pensaer / Athro / Cynllunydd / Tynnwr Llyniau / Cynllunydd gemau / Dyn camera / Dylunydd Graffeg/ Dylunydd Set/ Dylunydd Ffasiwn.
Cerdd
Drama
Mae’r cwrs yma yn meithrin creadigrwydd, twf personol, hunanhyder, sgiliau cyfathrebu ac ymarfer y dychymyg. Cewch y cyfle i fwynhau’r pwnc fel perfformwr, dyfeiswr a chyfarwyddwr. Mae’n rhoi’r cyfle i chi hefyd fynychu perfformiadau dramatig proffesiynol a chymunedol a byddwch yn datblygu eich sgiliau fel aelodau gwybodus a meddylgar o gynulleidfa. Byddwch yn creu eich gwaith eich hun o fewn grŵp ac yn ei berfformio o flaen eich cyfoedion yn ogystal ag astudio dramâu gan awduron eraill ble cewch gyfle i’w gwerthuso.
Sut fydda i yn dysgu?
Gwerthfawrogi gwahanol syniadau a safbwyntiau.
Cyd-weithio mewn grŵp ac yn unigol.
Sgiliau ymchwiliol.
Dadansoddi sgriptiau a syniadau awduron.
Datblygu a chyfathrebu syniadau.
Datblygu amrediad o sgiliau ymarferol, creadigol a pherfformio.
Archwilio effaith dylanwadau cymdeithasol, hanesyddol a diwylliannol ar ddrama.
Defnyddio Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu.
​
Beth fydd ei angen arnaf?
Offer cywir i bob gwers. Parodrwydd i fynychu perfformiadau theatrig tu allan i oriau ysgol ac i gyfrannu tuag at y gost.
​
Sut fydda i’n cael fy asesu?
Mae pob uned wedi ei thargedu ar gyfer yr ystod lawn o raddau A*-G. Bydd UN arholiad ymarferol dyfeisiedig yn cael ei arholi’n fewnol a bydd yr AIL arholiad ymarferol o destun penodol yn cael ei arholi’n allanol. Bydd yr arholiad YSGRIFENEDIG yn 1½ awr ar ddadansoddi un testun gosod fel actor ac yna i werthuso perfformiad welwyd gennych.