top of page

ABACH, GYRFAOEDD A PROFIAD GWAITH. 

Y FAGLORIAETH GYMREIG

20180711_143809.jpg

Mae ABaCh, gyrfaoedd a profiad gwaith yn paratoi'r dysgwyr i fod yn fwy effeithiol yn bersonol ac yn gymdeithasol drwy ddarparu profiadau dysgu lle gallant ddatblygu a defnyddio sgiliau, archwilio agweddau a gwerthoedd personol, a chaffael gwybodaeth a dealltwriaeth briodol.

 

Y nod gennym yw i ddatblygu hunan-dyb y dysgwyr a'u hymdeimlad o gyfrifoldeb personol, hybu hunan-barch, meithrin agweddau ac ymddygiad gadarnhaol yn ogystal a pharatoi'r dysgwyr ar gyfer y sialensiau, y dewisiadau a'r cyfrifoldebau sy'n gysylltiedig a (hwn angen bod hefo to bach ond methu ar fama) gwaith a bywyd oedolyn.

​

Ffocws canolog Bagloriaeth Cymru, sydd yng nghalon y system gymwysterau newydd yng Cymru, yng Nghyfnod Allweddol 4, yw darparu cyfrwng i rai 14-16 oed atgyfnerthu a meithrin sgiliau hanfodol a chyflogadwyedd.

Bydd y cymhwyster yn helpu dysgwyr i baratoi ar gyfer y dyfodol drwy feithrin sgiliau, priodoleddau a mathau o ymddygiad a gaiff eu gwerthfawrogi gan addysgwyr ôl-16 a darpar gyflogwyr.

Prif nod y cymhwyster yw galluogi'r dysgwyr i ddatblygu ac arddangos dealltwriaeth a hyfedredd mewn sgiliau hanfodol a chyflogadwyedd: Cyfathrebu, Rhifedd, Llythrennedd Digidol, Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau, Creadigedd ac Arloesi, Cynllunio a Threfnu ac Effeithiolrwydd Personol. Mae'r pwyslais ar ddysgu cymhwysol a phwrpasol ac i ddarparu cyfleoedd asesu ar draws sawl cyd-destun, trwy gyfrwng tair Her a Phroject Unigol.

bottom of page