Noson Agored Rhithiol 2020
YSGOL SYR THOMAS JONES
EIN HYSGOL
Croeso i wefan Ysgol Syr Thomas Jones! Ein gobaith yw y byddwch yn gweld y wefan a'r wybodaeth yn ddefnyddiol i chi fel rhieni/gofalwyr a ffrindiau i'r ysgol. Mae ein gweledigaeth yn glir sef "Plentyn yn gyntaf bob amser" ac rydym wedi cytuno ar werthoedd cadarn iawn fel staff a chymuned ysgol i wireddu hyn. Drwy weithio fel Tim gyda pharch at eraill ac at ein gilydd, bod yn uchelgeisiol a dangos gostyngeiddrwydd, rydym yn llwyddo i feithrin pobl ifanc fydd yn ddinasyddion aeddfed a chyfrifol. Mae ein cenhadaeth i sicrhau hyn i bob plentyn yn ymestyn tu hwnt i ffiniau'r ysgol ac rydym yn derbyn hyn fel braint a chyfrifoldeb.
Oriel
NEWYDDION

GWAITH ANIMEIDDIO BL 7
Gwasanaeth newydd y mae Barnardo’s wedi’u lansio yng Nghymru i gefnogi plant a theuluoedd sy’n cael trafferth ymdopi drwy’r pandemig presennol.
“Mae rhoi y plentyn yn gyntaf yn greiddiol i weledigaeth, gwaith ac ethos yr ysgol.”
“Nodwedd arbennig o ddisgyblion Ysgol Syr Thomas Jones yw eu hagweddau cadarnhaol tuag at fywyd ysgol a’u haddysg. Maent yn ddisgyblion diymhongar iawn, yn barchus a chwrtais ac yn ymroi at waith a bywyd yr ysgol yn dawel a gwylaidd.”
“Mae disgyblion yn ymddwyn yn ardderchog ac yn dangos parch at ei gilydd ac eraill.”
“Mae Ysgol Syr Thomas Jones yn gymuned agos sydd yn cynnig cymorth ac arweiniad gofalgar i ddisgyblion wedi ei selio ar oddefgarwch a pharch.”
Estyn 2018
“ THE DIRECTION IN WHICH EDUCATION STARTS A MAN WILL DETERMINE HIS FUTURE IN LIFE.”

YMWELD A NI
Mae pob amser croeso i ymwelwyr yn ein hysgol ni. Os oes unrhyw beth yr hoffech ei wybod am ein rhaglenni a cwricwlwm, cysylltwch a ni.